English

Amdanon ni

 

Croeso i wefan Cydweithfa Gymunedol Trefeglwys. Mae cymuned Trefeglwys yn gartref i ryw 1000 o bobl sy’n byw mewn ardal o fryniau gleision a dyffrynnoedd serth ym Mhowys, yn yr hen Sir Drefaldwyn, Canolbarth Cymru.

Mae’n cynnwys y pentrefi a phentrefannau Trefeglwys, Llawryglyn a Phenfforddlas mewn ardal sy’n mesur 8 milltir o hyd a 3 milltir ar draws. Mae’n ardal â chyfoeth o hanes a phethau o ddiddordeb, ac erbyn hyn, mae’n lle heddychlon a gwych i fyw ynddo, ac yn hafan i dwristiaid a’r bobl sydd â diddordeb yng nghefn gwlad a gweithgareddau cysylltiedig.

Mae’r prosiect wedi galluogi’r pentref i gadw’r holl gyfleusterau hyn, ynghลทd â Chaffi a Siop Flodau.  Mae’n darparu gweithgareddau cymunedol amrywiol, fydd yn gwasanaethu’r boblogaeth leol ac anghenion twristiaid tua’r dyfodol

Ceir manylion y prosiect, cefndir, trefniadaeth, cyllid a rheolaeth yn yr adran hon.