Diwrnod Agored Cwm Trannon
12 Mawrth 2011
Diwrnod i ddathlu…
Heddiw, dathlwyd ein hagoriad swyddogol pan ddaeth y Gwir Anrhydeddus Glyn Davies, AS i ddatgelu ein plac. Roedd dros chwe deg o Gyfranddalwyr, Gwirfoddolwyr, Cwsmeriaid a Ffrindiau yno hefyd, a diolchwyd i bawb sydd wedi’n cynorthwyo i gyrraedd y sefyllfa yma.
Ond nid dyma’r diwedd – megis dechrau ydan ni. Edrychwn ymlaen at ehangu ein gwasanaeth i’r gymuned er budd pawb yng Nghwm Trannon a thu hwnt. Gwyliwch allan am ddiweddariadau yn y dyfodol a galwch heibio am sgwrs, oherwydd rydym yn awyddus i wrando ar unrhyw syniadau mewn perthynas â datblygu Cwm Trannon.