Cylchlythyr Hydref 2011
11 Tachwedd 2011
11 Tach 2011
Cyhoeddwyd ein cylchlythyr diweddaraf ychydig yn ôl, mae ar gael yma !
Ffoniwch ni ar: 01686 430430, neu e-bostiwch ni ar: info@cwmtrannon.co.uk,
Neu ewch ar y wefan: www.cwmtrannon.co.uk
Cylchlythyr Cwm Trannon
Tachwedd 2011
Fedrwch chi goelio – ar 4ydd Tachwedd rydym ar agor ers blwyddyn gyfan?
Mae’r tymhorau wedi hedfan mor gyflym mae’n anodd credu bod y gaeaf o’n blaenau unwaith eto. Y newyddion da yw na fydd hwyliau isel y gaeaf yng Nghwm Trannon eleni, oherwydd gallwn ni gynnig yr holl wasanaethau lleol sydd eu hangen i’ch helpu trwodd tan y Gwanwyn.
Bydd ein cylchlythyr yn ehangu ar hyn, ond yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i chi oll am eich cefnogaeth yn ystod ein blwyddyn gyntaf. Mae cymaint ohonoch wedi gwneud cymaint mewn cymaint o ffyrdd. Eich cydweithfa gymunedol chi yw hon – diolch O GALON i chi oll. Felly, ymlaen i’n newyddion .....
Y Siop, Swyddfa Bost, Caffi a’r Garej: Mae’r gwasanaethau craidd wedi parhau i dyfu ac mae’r nifer fawr o ymwelwyr sydd wedi mynd trwy’r dyffryn wedi gadael sylwadau ynghylch y newidiadau sydd wedi digwydd. Mae trigolion lleol wedi dechrau gwneud mwy o ddefnydd ohonom wrth inni fireinio’r cynnyrch a’r prisiau ..... diolch i’ch ceisiadau a’ch adborth sy’n parhau, felly daliwch ati !
Cynnyrch i’r Gaeaf: Er mwyn eich cadw’n ddiogel ac yn gynnes trwy’r gaeaf, mae gennym gyflenwad o halen a grit, rhawiau eira, glo, coed tân a choed bore. Gadewch inni wybod os gallwch feddwl am unrhyw beth arall.
Cynigion Tymhorol: Ar ôl llwyddo i oroesi holl gastiau Calan Gaeaf, rydym yn paratoi at y Nadolig – dewch i’n Ffair Nadolig (2ail – 5ed Tach). Danteithion blasus, Crefftau’r Nadolig, Stampiau Nadolig, archebion at y Nadolig - mae hyn oll ar gael. Hefyd mae dewis ehangach o ffrwythau, llysiau a chig ffres ar gael – ein nod yw rhoi ansawdd da i chi am bris da. Beth am archebu eich llysiau Nadolig neu’ch twrci yma ?
Post adeg y Nadolig: Hwyrach y cofiwch i’r eira achosi dipyn o helynt y llynedd gyda’r post dros y Nadolig. Daeth y siop yn lle poblogaidd i’r dynion post adael llythyrau i bobl os oeddynt yn methu mynd i dai yn y mynyddoedd. Byddwn yn cynnig yr un gwasanaeth eto eleni, felly cofiwch gysylltu a gadael inni wybod os gallwn fod o help.
Ffoniwch ni ar: 01686 430430, neu e-bostiwch: info@cwmtrannon.co.uk,
Neu ewch ar y wefan: www.cwmtrannon.co.uk
Ystafelloedd Cymunedol: Mae dwy ystafell ar gael i’w llogi – ffoniwch ni os hoffech eu defnyddio. Ar wahân i’r clybiau sy’n cwrdd yma eisoes a dosbarthiadau, cynhaliwyd ambell ddigwyddiad Adeg Cwpan Rygbi’r Byd a pharti pen-blwydd i blentyn 5 oed. Rhowch wybod os am logi lle i gael hwyl. Mae’r Wii a’r Xbox hefyd ar gael (bydd aelodau iau teuluoedd yn gwybod be ’dan ni’n meddwl).
Gwasanaethau: Cofiwch fod mynediad i’r rhyngrwyd ar gael yma a WiFi os am ddefnyddio eich dyfais eich hunan. Hefyd gallwn sganio, ffacsio, neu gopïo dogfennau i chi, ac os oes gennych ryw ofynion technegol eraill, rhown gynnig ar hynny hefyd.
Gwirfoddolwyr: Cefnogaeth ein gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn y prosiect yma, a diolchwn i chi eto am eich cefnogaeth barhaus. Rydym wastad yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr, felly os nad ydych eisoes wedi rhoi cynnig ar hyn, croeso i chi wneud, rydym yn awyddus i ehangu’r tîm a gallwn gynnig hyfforddiant ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghwm Trannon. Beth am alw draw am awr rywbryd i weld os mae’n addas i chi ?
Amseroedd Agor:
Noder, byddwn yn newid ein hamseroedd agor ychydig pan fydd y clociau’n newid. O hyn ymlaen byddwn yn cau am 5:30pm yn ystod yr wythnos.
Yr Orsaf Betrol, y Siop, a'r Caffi:
8am - 5:30pm Dydd Llun – Gwener;
8am - 12 Dydd Sadwrn
9am - 12 Dydd Sul
Y Swyddfa Bost:
10:30am - 3pm Dydd Llun - Gwener
10:30am - 12 Dydd Sadwrn