Gwobrwyon y Gynghrair Cefn Gwlad 2011
12 Ionawr 2012
12 Ion 2012
Pleser yw cael cyhoeddi fod Cwm Trannon wedi ennill Gwobr y Gynghrair Cefn Gwlad yn y categori ar gyfer y siop a swyddfa bost orau mewn pentref. Cyhoeddwyd y newyddion hyn neithiwr mewn derbyniad lle'r oedd yr holl enillwyr rhanbarthol yn bresennol yn y Senedd yng Nghaerdydd.
Rydym yn gwerthfawrogi’r gydnabyddiaeth yma’n fawr iawn, a dymunwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu a chynorthwyo ni dros y flwyddyn diwethaf. Mae wedi bod yn ymdrech deg gan y tîm cyfan a chi sydd wedi sicrhau’r llwyddiant yma i Gwm Trannon - ein cydweithfa Gymunedol !
Cliciwch yma am fanylion.